Dydd Mercher 14 Mai am 19.30 Neuadd y Pentref, Treforgan (Morganstown Village Hall)
Tocynnau £5 o Swyddfa Tocynnau’r Wyl.
Mae Cwmni Cwm Ni, Caerffili yn dod a’i drama diweddaraf “Troi Dalen Newydd”.
Addasiad Thomas Cherry-Gunning o ddrama fer Eynon Evans. Ganwyd Eynon yn Nelson, Syr Forgannwg, ac ar ol dechrau ei yrfa fel gyrrwr bws daeth yn enwog fel Tommy Troubles yn y gyfress radio Welsh Rarebit, oedd yn cael ei glywed gan 12 milliwn o bobl. Aeth ymlaen i weithio ar nifer o’r Ealing comedies ac ymddangosodd gyda actorion fel Donald Houston, Petula Clark a Peter Sellers. Mi fydd Eynon yn adnabyddus i nifer fel un o drigolion Bryn Awelon, cartref hen bobol Pobol y Cwm.